Gallwn gynnig y gwasanaethau maethu canlynol:
- Hyfforddiant i ofalwyr maeth cyffredinol a gofalwyr maeth sydd â chysylltiad a’r plant/teulu a ffrindiau.
- Adolygu cofrestriad gofalwyr maeth.
- Cefnogaeth annibynnol i ofalwyr maeth sy’n wynebu cyhuddiad neu sydd mewn anghydfod gyda’r asiantaeth maethu.
- Asesiadau maethu.
- Grwpiau cefnogi ofalwyr sydd â chysylltiad / teulu a ffrindiau.
- Grwpiau cefnogi plant gofalwyr maeth.
- Cadeirio cyfarfodydd pan fydd lleoliad plentyn wedi dod i ben yn annisgwyl.
Rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Gwynedd i ddatblygu gwasanaeth i gefnogi Gwarcheidwaid Arbennig.
Gall Gwarcheidwaid Arbennig fod yn un o'r canlynol:
- Gofalwyr sydd wedi derbyn Gorchmynion Gwarchodaeth Arbennig mewn cysylltiad â phlant sy'n wreiddiol o Wynedd.
- Gofalwyr o Wynedd sydd wedi derbyn Gorchmynion Gwarchodaeth Arbennig ynglŷn â phlant o'r tu allan i Wynedd.
- Gofal o'r tu allan i Wynedd sydd wedi derbyn Gorchmynion Gwarchodaeth Arbennig ar blant o'r tu allan i Wynedd sy'n symud i Wynedd wedi i'r gorchymyn gael ei wneud.