Gwasanaethau

Cynlluniau a Chytundebau Teuluoedd

Ar adegau mae teuluoedd angen cefnogaeth i wneud cynlluniau a chytundebau er mwyn sicrhau diogelwch a lles y plentyn. Mae Y Bont yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i deuluoedd drwy system gyfeirio. Mae gennym dîm profiadol yn darparu’r gwasanaethau yma gan sicrhau annibyniaeth a pharch i’r teuluoedd.

Cyfarfodydd Teulu

Cwlwm ydi’r enw ar wasanaeth Cyfarfodydd Teulu Y Bont. Aelodau’r teulu sy’n arwain y broses cyfarfodydd teulu er mwyn cynllunio a dod i benderfyniadau ynglŷn â phlentyn sydd mewn angen neu mewn risg. Mae plant a phobl ifanc ran amlaf yn rhan o’u cyfarfod teulu eu hunain yn ogystal ag eraill sy’n bwysig yn eu bywydau, yn cynnwys aelodau teulu estynedig a ffrindiau. Proses wirfoddol yw hon ac nid yw’n bosibl mynnu fod teulu yn cael cyfarfod teulu.

Gellir defnyddio Cyfarfodydd Teulu Cwlwm ar gyfer y canlynol:

  • Ymyrraeth gynnar, Beth sy’n Bwysig, Teuluoedd yn Gyntaf.
  • Diogelu, argymhelliad cynadleddau achos.
  • PLO, llythyr cyn achos.
  • Plant mewn gofal, unai i adnabod pwy o fewn y teulu all ofalu am y plant neu i gytuno ar gynllun cyswllt.
  • Ail uno plentyn gyda’i deulu, cynllunio ar gyfer yr ail uno.
  • Gadael gofal, cynnwys y teulu mewn cynllunio newidiadau.
  • Cyfiawnder ieuenctid, addysg, rhiant yn y carchar.

Mae Cwlwm wedi ei achredu o dan y Cynllun Cenedlaethol Sicrwydd Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Cyfarfodydd Teulu.

Cymodi

Proses yw Cymodi er mwyn gweithio tuag at gytundeb rhwng dau barti cyfartal.

Cymodi rhwng pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr

Mae gwasanaeth cymodi Y Bont ar gael i bobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr i ddod i gytundeb er mwyn lleihau pwysau yn y cartref, ac er mwyn gwneud y cartref yn fwy sefydlog ar gyfer y person ifanc.

Bydd y gweithiwr Cymodi yn siarad gyda’r ddau barti yn unigol i gychwyn ac yna’n trefnu cyfarfod ar y cyd lle bydd y ddwy ochr yn gwrando ar ei gilydd ac yn gweithio tuag at gytundeb sydd o fudd i bawb.

Cymodi rhwng rhieni

Mae Y Bont yn cynnig gwasanaeth cymodi i rieni pan fyddant yn dymuno gwneud cytundeb ynglŷn â’r plant. Mae defnyddio gweithiwr cymodi i helpu ddod at gytundeb yn gallu lleihau gwrthdaro rhwng rhieni ar adeg pan fo’r teimladau yn gryfion, ac mae hyn yn well er lles y plant. Bydd y gweithiwr cymodi yn siarad gyda’r ddau riant ar wahân ac os yn bosibl byddant hefyd yn ymgynghori gyda’r plant er mwyn i’w dymuniadau a’u teimladau nhw gael ei gynnwys mewn unrhyw gytundeb fydd y rhieni yn ei wneud.

Sut i gyfeirio

Gall teuluoedd gael eu cyfeirio drwy’r asiantaethau sy’n bartneriaid i ni.