Gwasanaethau

Llesiant

Mae Y Bont wedi datblygu nifer o wasanaethau i gefnogi’r teuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw, er mwyn hybu llesiant ac annog gwytnwch.

Tyfu trwy’r Tymhorau

Mae Y Bont yn cynnig rhaglen Tyfu Trwy’r Tymhorau i blant a phobl ifanc.

Mae Tyfu Trwy’r Tymhorau yn raglen arloesol sy’n defnyddio symbolaeth y tymhorau er mwyn egluro’r profiad o alaru.

Bwriad rhaglen Tyfu Trwy’r Tymhorau yw cryfhau llesiant emosiynol a chymdeithasol plant a phobl ifanc (6-18oed) sydd yn delio gyda newid yn eu bywydau, drwy edrych ar effaith newid a cholled ar fywyd bob dydd a dysgu ffyrdd newydd o ymateb i’r newidiadau yma. Mae rhaglen ar gyfer oedolion ar gael yn awr hefyd. Mae pob rhaglen yn 8 awr, gan amlaf un awr yr wythnos dros 8 wythnos.

Rydym hefyd yn cynnal rhaglenni ar gyfer rhieni i helpu eu plant i ddelio gyda colledion yn dilyn ysgariad neu marwolaeth rhywun annwyl.

Rydym hefyd yn cynnal rhaglenni ar gyfer oedolion ar ddelio â'u galar a colled eu hunain.

Cwnsela

Mae gan Y Bont wasanaeth cwnsela ar gyfer plant dros 10 oed ac oedolion. Defnyddir y dull person–ganolog ac mae gennym gwnselwyr cymwysiedig yn rhan o’n tîm. Fe gynigir 6 sesiwn i gychwyn, mewn lleoliad wedi ei gytuno, neu ar lein, sydd yn hawdd i’r cleient ei gyrraedd. Gellir cynnig mwy na 6 sesiwn os fydd y cwnselydd a’r cleient yn credu y byddai hynny o fudd.

Cefnogi unigolion

Gallwn gynnig cefnogaeth ac arweiniad i rieni sydd â’u plant yn derbyn gwasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r gwasanaeth yma yn bennaf ar gyfer cyn ddefnyddwyr ein gwasanaethau ni.

Cam Nesaf - yn gwrs magu plant 6 sesiwn i rheini sydd efallai wedi dangos trais neu ymddygiad ymosodol tuag at eu partneriaid. Pan fydd rhywun yn mynychu cwrs Cam Nesaf rydym yn darparu cymorth partner.

Rhiant i Riant - dyma raglen newydd yr ydym yn ei datblygu. Rhaglen cefnogi cyfoedion fydd hon i rieni sydd wedi cael tynnu plentyn o'i ofal.

Sut i gyfeirio

Ddylai’r cyfeiriad ddod drwy ein partneriaid Gwasanaethau Cymdeithasol neu Teuluoedd yn Gyntaf. Gall unigolion gysylltu yn uniongyrchol hefo ni am gefnogaeth i unigolion.