Polisi Preifatrwydd a Chwcis y Wefan

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni; o dan y Ddeddf Diogelu Gwybodaeth a’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), mae rhwymedigaethau cyfreithiol penodol arnom yn ymwneud â’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a’i phrosesu amdanoch. Mae rhagor o wybodaeth am y GDPR ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth (https://ico.org.uk/). I bwrpas y GDPR, ni fydd “rheolydd” yr holl ddata personol a gedwir amdanoch.

  1. Pryd ydym ni’n casglu gwybodaeth bersonol amdanoch?

    Nid yw ein gwefan yn cipio nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy’n ei chyrchu oni bai eich bod yn dewis rhoi eich manylion i ni’n wirfoddol, er enghraifft:
    • Pan ydych yn cwblhau ffurflen ymholiad ar lein ar ein gwefa
    • Pan ydych yn cysylltu â ni drwy e-bost drwy ddefnyddio’r ddolen e-bost ar ein gwefan
    Nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei storio ar ein gwefan.

    Ymholiadau all-lein a chwsmeriaid

    Hefyd, byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch os ydych yn cysylltu â ni i holi am ein gwasanaethau dros y ffôn, SMS neu drwy lythyr; ac os ydych yn archebu nwyddau neu wasanaethau gennym fel rhan o broses archebu all-lein.
  2. Pa wybodaeth bersonol ydym ni’n ei chasglu gennych?

    Os ydych yn cysylltu â ni drwy ein gwefan byddwn yn casglu eich enw a’ch manylion cyswllt yn cynnwys eich cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif(au) ffôn cyswllt, ynghyd ag unrhyw wybodaeth ychwanegol yn unol â’r ffurflen ymholiad benodol yr ydych wedi’i chwblhau ac wedi nodi’n glir ar y ffurflen ymholiad.

    Ymholiadau all-lein a chwsmeriaid

    Os ydych yn dod yn gwsmer yna bydd angen i ni gasglu gwybodaeth ychwanegol gennych, yn cynnwys eich enw, manylion cyswllt llawn (cyfeiriad(au), rhif(au) ffôn, cyfeiriad ebost) a gwybodaeth ynglŷn â thalu.
  3. Beth ydym ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol?

    Defnyddir yr wybodaeth bersonol yr ydych wedi ei rhoi’n wirfoddol wrth wneud ymholiad ar-lein i bwrpas ymateb i’ch ymholiad yn unig.

    Ymholiadau all-lein a chwsmeriaid

    Os ydych yn gwsmer byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i helpu i gyflenwi’r nwyddau neu wasanaethau y gofynnwyd amdanynt, i bwrpas bilio neu gyfrifyddu, i weinyddu ein gwasanaethau ac ar gyfer ein gweithrediadau mewnol , ac i’ch hysbysu ynghylch newidiadau i’n gwasanaethau neu delerau.

    Hefyd yr ydych yn cytuno y gallwn rannu eich gwybodaeth bersonol fel a ganlyn:
    • Gyda’n cyflenwyr a’n hisgontractwyr (yn cynnwys proseswyr talu) pan fo’n ofynnol gwneud hynny er mwyn cyflawni unrhyw gytundeb a wneir gennym er mwyn darparu’r nwyddau neu wasanaethau y gofynnwyd amdanynt.
    • Mewn achos o drafodion busnes (gwerthu neu brynu) lle byddai angen gwybodaeth bersonol i sicrhau parhad gwasanaeth.
    • Os oes dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, neu i orfodi ein telerau defnydd neu delerau ac amodau cyflawni nwyddau neu wasanaethau; neu i ddiogelu hawliau, eiddo neu’n diogelwch ein hunain, ein cwsmeriaid neu eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth â chwmnïau a sefydliadau eraill i bwrpas diogelu rhag twyll a gwirio credyd.
  4. Defnyddio gwybodaeth bersonol ar gyfer marchnata

    Ni fyddwn byth yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol.

    Ni fyddwn yn anfon e-byst marchnata atoch yn y dyfodol oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i dderbyn e-byst marchnata.

    Ni fyddwn byth yn datgelu gwybodaeth bersonol i drydydd parti ar gyfer unrhyw bwrpas marchnata oni bai y nodir hyn yn glir ar y dudalen gwe / neu ffurflen ymholiad perthnasol ar y pwynt casglu gwybodaeth gennych, a’ch bod wedi rhoi eich caniatâd penodol.

    Pan fyddwn yn cynnal gweithgareddau marchnata gan ddefnyddio cyfuniad o ebost, post, ffôn a SMS, bydd cyfle i chi nodi pa un (os o gwbl) yr ydych yn cydsynio i’w dderbyn.

    Os ydych wedi rhoi caniatâd i dderbyn negeseuon marchnata gallwch dynnu’r caniatâd yn ôl unrhyw bryd; naill ai drwy gysylltu â ni i ddileu’r cais neu trwy ddefnyddio’r ddolen sydd ar gael i ddatdanysgrifio.
  5. Eich hawliau

    Mae'n rheidrwydd arnom, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn storio gwybodaeth hanfodol yn unig a bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei storio’n gywir a chyfredol. Hefyd, mae gennych rai hawliau sy’n ymwneud a’ch gwybodaeth bersonol:
    • Mae gennych hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich gwybodaeth bersonol i bwrpas marchnata, a thynnu’r hawl hwnnw’n ôl (os caniateir hynny) unrhyw bryd.
    • Mae gennych hawl i ofyn am gael gweld yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch.
    • Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw namau.
    • Mae gennych hawl i ni ddileu unrhyw wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch.
    • Mae gennych hawl i gopïo neu drosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch i ddarparwr arall.
    Nid oes tâl am y gwasanaeth hwn.

    Nodwch, fod rhai cyfyngiadau’n berthnasol, er enghraifft rydym wedi ymrwymo i gadw cofnodion digonol i bwrpas cyfrifyddu am gyfnod o saith blynedd.

    Anfonwch unrhyw geisiadau’n ymwneud â gwybodaeth bersonol at ein Rheolydd Data:

    Val Owen
    Y Bont
    28 Heol y Dŵr
    Penygroes
    Caernarfon
    Gwynedd
    LL54 6LR
    [email protected]
    01286 881620
  6. Cadw data

    Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod hirach nag sydd ei angen.

    Yn ôl CThEM, rhaid i ni gadw gwybodaeth ddigonol i bwrpas cyfrifyddu am gyfnod o saith blynedd.

    Bydd gwybodaeth yn ymwneud â ? ac ymholiadau, nad ydynt yn arwain at unrhyw gontract ar gyfer cyflenwi nwyddau neu wasanaethau, yn cael eu dileu ar ôl cyfnod o flwyddyn.

--

Cadwn yr hawl i ddiwygio’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd heb rybudd ymlaen llaw. Fe’ch cynghori i wirio’r dudalen hon yn rheolaidd i weld unrhyw newidiadau.

Diweddarwyd y Polisi Preifatrwydd hwn ar 01 Mai 2018.

Polisi Cwcis

Mae ein gwefan yn gwneud defnydd cyfyngedig o gwcis. Ffeiliau testun bach a osodir ar eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn yw cwcis pan ydych yn ymweld â gwefan. Dyma’r mathau o gwcis:

Cwcis sesiwn - mae’r rhain yn para’ ar eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn am hyd sesiwn bori unigol, er enghraifft i gofio eitemau mewn basged siopa. Nid ydynt yn para’ ar eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn unwaith y byddwch wedi cau’r sesiwn.

Cwcis parhaus - mae’r rhain yn para’ ar eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn rhwng sesiynau pori, er enghraifft i’ch dilysu, neu gofio eich dewisiadau rhwng ymweliadau.

Cwcis parti cyntaf a thrydydd parti - mae cwcis parti cyntaf yn cael eu gosod gan rywun nad yw’n berchennog y wefan yr ydych yn ymweld â hi.

Mae’r cwcis a ddefnyddir ar ein gwefan yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb Preifatrwydd yr UE, a fabwysiadwyd gan y DU yn fersiwn ddiweddaraf Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig ar 16 Mai 2016.

Sut ydym yn defnyddio cwcis

Mae ein gwefan yn defnyddio’r ddau fath canlynol o gwci:

Cwci sesiwn (rhif adnabod) - mae’r cwci hwn yn caniatáu i’r gweinydd gwe sy’n cynnal ein gwefan ymateb i’ch gweithredoedd ar y wefan, er enghraifft, darparu tudalennau wrth i chi bori. Mae’r cwci hwn yn cael ei ddileu’n awtomatig o’ch cyfrifiadur, tabled neu ffôn pan fyddwch chi'n cau eich porwr.

Cwcis Google Analytics - mae’r cwcis hyn yn cael eu gosod gan Google Analytics ar gyfer ystadegau am ymwelwyr (dienw) â’r wefan. Mae’r wybodaeth y mae Google Analytics yn ei chasglu’n cynnwys dyddiad ac amser yr ymweliad, y tudalennau yr edrychwyd arnynt, yr amser a dreuliwyd ar y tudalennau hynny, cyfeiriad IP, math o gyfrifiadur a phorwr a sut y cyrhaeddoch i’n gwefan (e.e. trwy beiriant chwilio neu trwy wefan arall). Ni ddefnyddir yr wybodaeth hon i adnabod unrhyw unigolyn; fe’i cesglir yn unig i roi dealltwriaeth i ni o’r ffordd y mae pobl yn dod o hyd i’n gwefan, ac yn ei defnyddio, ac i’n helpu i wella ein gwefan a’n gwasanaethau.

Gallwch weld Polisi Preifatrwydd Google Analytics yma: https://support.google.com/analytics/answer/6004245?hl=en

Trwy ddefnyddio ein gwefan rydych yn cytuno y gallwn osod y mathau hyn o cwcis ar eich cyfrifiadur neu ddyfais.

Cwcis blocio

Gallwch ddarllen mwy am gwcis, yn cynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut i reoli, dileu neu flocio cwcis trwy fynd i www.aboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org.

--

Cadwn yr hawl i ddiwygio’r Polisi Cwcis hwn o bryd i’w gilydd heb rybudd ymlaen llaw. Fe’ch cynghori i wirio’r dudalen hon yn rheolaidd i weld unrhyw newidiadau.

Diweddarwyd y Polisi Cwcis hwn ar 01 Mai 2018.