Gwasanaethau

Grwpiau

Mae Y Bont yn rhedeg gwahanol grwpiau ar gyfer:

Rhai sy’n gofalu am aelod o’r teulu

Grwpiau ar gyfer gofalwyr maeth a phobl sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu blentyn mae ganddynt gysylltiad â fo neu hi yng Ngwynedd, Môn a Chonwy. Bwriad y grŵp ydi dod â phobl at ei gilydd i rannu profiadau, i gefnogi ei gilydd ac i gael gwybodaeth am ddatblygiadau sy’n berthnasol iddyn nhw. Mae cyfle hefyd i ofalwyr gymryd rhan mewn cynadleddau, ymgynghoriadau a digwyddiadau cenedlaethol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a [email protected] neu[email protected]

Plant gofalwyr maeth

Grŵp ar gyfer plant gofalwyr maeth Gwynedd o 9 -18 oed. Bwriad y grŵp ydi dod â phlant a phobl ifanc at ei gilydd i rannu profiadau, i gefnogi ei gilydd ac i gael y cyfle i drafod materion sy’n berthnasol iddyn nhw fel aelodau o deulu maeth.