Amdanom Ni

Staff

Staff Llawn Amser

Val Owen

Val Owen
Mae Val Owen yn Weithiwr Cymdeithasol sydd wedi gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, yn arbennig teuluoedd maeth, ers 1989. Bu’n gweithio yn Y Bont ers 1991 a hi yw’r Prif Weithredwr. Val yw rheolwr yr elusen ac mae hefyd yn gwneud dipyn o’r gwaith maethu a hyfforddi. Mae’n Gyfaill a Hyfforddwraig gyda’r rhaglen Tyfu Trwy’r Tymhorau. Mae Val yn un o gadeiryddion proses IRM Cymru. Mae Val hefyd yn gweithio fel Adolygydd Ymarfer Plant i Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

Anona Davies

Anona Davies
Mae Anona yn Weithiwr Cymdeithasol Cymwysedig sydd â phrofiad o faethu a gweithio gyda phlant ag anabledd. Ymunodd Anona â'r tîm ym mis Ionawr 2022 ac mae'n Uwch Ymarferydd ar gyfer ochr maethu a hyfforddi Y Bont. Mae Anona hefyd yn cefnogi Gofalwyr Cysylltiedig.

Maureen Japp

Maureen Japp
Mae Maureen wedi gweithio i’r Bont fel Cyd-drefnydd Cyfarfodydd Teulu ers 1995 ac fel aelod llawn amser ers 2006. Maureen yw'r Uwch Ymarferydd ar gyfer ein gwaith Datrys Gwrthdaro a Lles. Mae’n gyd-drefnydd cyfarfodydd teulu cymwysedig gyda chymhwyster ôl radd mewn cyfarfodydd teulu. Mae’n diwtor a hyfforddwraig wedi ei hachredu i gyflwyno hyfforddiant Family Rights Group ac yn aelod o Banel Cenedlaethol Sicrhau Ansawdd y Family Rights Group. Mae Maureen hefyd yn gymodydd ac yn gwnselydd. Mae hi'n Gyfaill ac hyfforddwraig Tyfu Trwy’r Tymhora ar gyfer y rhaglen i blant ac oedolion. Mae Maureen yn rhedeg grwpiau Tyfu Trwy’r Tymhorau i rieni ac oedolion.

Magi Rhys

Magi Rhys
Dechreuodd Magi weithio i'r Bont yn 2019 ar ôl gyrfa eang yn y diwydiant ffilm a theledu. Magi yw Rheolwr y Swyddfa.

Angharad Williams

Angharad Williams
Cychwynnodd Angharad weithio yn Y Bont yn 2000 yn hyrwyddo cyfranogiad a llais plant a phobl ifanc oddi fewn i wasanaethau Gwynedd. Erbyn hyn mae’n gyd-drefnydd cyfarfodydd teulu; yn gymodydd, yn trafod anghydfod rhwng rheini; yn gwnselydd ac yn Gyfaill i’r cynllun Tyfu Trwy’r Tymhorau ac yn Gwnselydd. Mae Angharad wedi datblygu'r gwaith o gefnogi rhieni sy'n wynebu achos llys neu y mae eu plant mewn gofal neu ar y gofrestr amddiffyn plant trwy helpu pobl i ddeall y broses neu drwy helpu pobl i fynychu cyfarfodydd.

Mel Phillips

Mel Phillips
Mae Melanie yn gyd drefnydd cyfarfodydd teulu a chymodydd yn Y Bont. Mae’n hyfforddi yn achlysurol ac yn Gyfaill i’r cynllun Tyfu Trwy’r Tymhorau. Mae ganddi brofiad o wahanol feysydd gwaith gan gynnwys digartrefedd, trais yn y cartref, gwaith ieuenctid, taliadau uniongyrchol a datblygu cymunedol. Ar hyn o bryd, person cyswllt Y Bont yw Mel ar gyfer ein gwaith gyda rhieni sydd yn y carchar. Mae Mel hefyd yn darparu cefnogaeth i bartneriaid o fewn Prosiect Cam Nesaf.

Claire Owen

Claire Owen
Mae Claire wedi gweithio yn y sector cefnogi ers llawer o flynyddoedd, yn wreiddiol fel gweithiwr ieuenctid, cyn symud i weithio mewn hostel i’r digartref. Yn fwy diweddar bu’n gweithio fel gweithiwr tai annibynnol yn ceisio atal digartrefedd. Cychwynnodd Clare weithio i YBont yn 2017 fel cyfrednydd Cyfarfodydd Teult. Ers y cyfnod hwn mae Claire wedi cymhwyso fel Cwnselydd. Mae Claire hefyd yn gyfaill, yn fentor ac yn hyfforddwr ar gyfer Rhaglen Tyfu Trwy’r Tymhorau.

Swyn Angharad

Swyn Angharad
Mae gan Swyn brofiad o weithio i wasanaethau cam-drin domestig trydydd sector cyn mynd ati i wneud ei chymhwyster cwnsela. Dechreuodd Swyn fel myfyriwr gyda'r Bont cyn cael ei gyflogi yn 2021. Yn ogystal â chwnsela, mae Swyn yn gydlynydd Cynhadledd Grŵp Teuluol a chyfryngwr.

Llinos Birch

Llinos Birch
Mae Llinos wedi gweithio i wasanaethau cam-drin domestig y trydydd sector ers blynyddoedd, roedd hi hefyd yn weithiwr ieuenctid rhan amser yn ardal wledig Conwy. Mae ganddi brofiad helaeth o Raglen Tyfu Trwy’r Tymhorau. Dechreuodd Llinos weithio yn Y Bont ym mis Mawrth 2019 fel Mentor a chyfaill Tyfu Trwy’r Tymhorau mae hi hefyd yn Hyfforddwr i'r rhaglen erbyn hyn. Mae Llinos hefyd yn cefnogi gofalwyr sydd wedi cael Gorchymun Gwarchodaeth Arbennig.

Theresa Hodgson

Theresa Hodgson
Mae Theresa wedi gweithio'n agos gyda phlant a theuluoedd ers 20 mlynedd, ac yn fwy diweddar fel swyddog Lles Addysg cyn ymuno â'r Bont yn 2023. Mae gan Theresa radd mewn Seicoleg ac mae ganddi ddiddordeb yn effeithiau trawma ar blant a phobl ifanc a'r ymyriadau therapiwtig sy'n gallu eu cefnogi. Mae Theresa yn gydlynydd Cynhadleddau Teulu a Cymodi.