Amdanom Ni
Ethos a Gwerthoedd
Fel elusen rydym yn gweithio gyda plant ac phobl ifanc i ateb eu anghenion. Gall hyn hefyd olygu ein bod yn gweithio gyda rhieni, gofalwyr a theuluoedd.
Ethos
Mae ein gwaith bob amser yn ymwneud â:
- Cydnabod hunaniaeth yr unigolyn;
- Hybu arfer gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol;
- Hybu, cynnal, a pharchu hawliau a dewis unigolion wrth ddarparu gwasanaethau;
- Cefnogi unigolion drwy gyfathrebu effeithiol;
- Gweithredu mewn modd sydd ddim yn feirniadol.
Gwerthoedd
Rydym yn sicrhau ein bod yn gweithio o fewn Gwerthoedd y mudiad bob tro:
- Y lle gorau i’r rhan fwyaf o blant fod yw gyda’u teuluoedd;
- Mae’r nifer fechan o blant sy’n gorfod byw ar wahân i’w teuluoedd yn haeddu gofalwyr o’r safon uchaf;
- Rhaid i ofalwyr dderbyn hyfforddiant o safon uchel er mwyn gallu gwneud eu gwaith;
- Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd angen help a chymorth er mwyn magu llais, fel y gallant gyfrannu at gynlluniau a gwasanaethau a allai gael effaith ar eu bywydau;
- Mae angen i blant gadw cysylltiad â’u gwreiddiau fel y gallant fagu gwytnwch fydd o gymorth iddynt ddelio â’u cefndir a wynebu eu dyfodol.