Gwasanaethau

Maethu

Mae gan Y Bont brofiad eang o fewn y maes maethu; rydym yn gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol ar draws Gogledd Cymru ac ymhellach fel bo’r angen.

Gallwn gynnig y gwasanaethau maethu canlynol:

  • Hyfforddiant i ofalwyr maeth cyffredinol a gofalwyr maeth sydd â chysylltiad a’r plant/teulu a ffrindiau.
  • Adolygu cofrestriad gofalwyr maeth.
  • Cefnogaeth annibynnol i ofalwyr maeth sy’n wynebu cyhuddiad neu sydd mewn anghydfod gyda’r asiantaeth maethu.
  • Asesiadau maethu.
  • Grwpiau cefnogi ofalwyr sydd â chysylltiad / teulu a ffrindiau.
  • Grwpiau cefnogi plant gofalwyr maeth.
  • Cadeirio cyfarfodydd pan fydd lleoliad plentyn wedi dod i ben yn annisgwyl.

Rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Gwynedd i ddatblygu gwasanaeth i gefnogi Gwarcheidwaid Arbennig.

Gall Gwarcheidwaid Arbennig fod yn un o'r canlynol:

  • Gofalwyr sydd wedi derbyn Gorchmynion Gwarchodaeth Arbennig mewn cysylltiad â phlant sy'n wreiddiol o Wynedd.
  • Gofalwyr o Wynedd sydd wedi derbyn Gorchmynion Gwarchodaeth Arbennig ynglŷn â phlant o'r tu allan i Wynedd.
  • Gofal o'r tu allan i Wynedd sydd wedi derbyn Gorchmynion Gwarchodaeth Arbennig ar blant o'r tu allan i Wynedd sy'n symud i Wynedd wedi i'r gorchymyn gael ei wneud.