Mae gan Y Bont gefndir cadarn mewn darparu gwasanaethau ym maes maethu. Mae gennym gytundebau gwaith gyda nifer o Awdurdodau Lleol ar gyfer darparu gwasanaethau maethu. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth yn achlysurol i siroedd eraill ar hyd a lled Prydain.
Mae ein gwaith yn y maes hwn yn cynnwys darparu’r gwasanaethau canlynol:
- Hyfforddiant blynyddol ar gyfer gofalwyr maeth ar bynciau megis Diogelu Plant, y Gyfraith, Gofal Diogel, Gweithio gyda Theuluoedd, a Maethu a’ch Teulu Chi.
- Cyrsiau ar gyfer pobl sy’n maethu plant o fewn eu teuluoedd eu hunain neu blant i’w ffrindiau.
- Cyrsiau ar gyfer staff preswyl a staff cefnogol sy’n gofalu am blant.
- Adolygu cofrestriad gofalwyr maeth.
- Cefnogaeth ar gyfer gofalwyr maeth sy’n gofalu am blant a ddaw o siroedd eraill.
- Cefnogaeth annibynnol ar gyfer gofalwyr maeth sy’n wynebu cyhuddiadau neu sydd mewn anghydfod gydag Awdurdodau Lleol.
- Cadeirio cyfarfodydd pan fo lleoliad y plentyn yn chwalu’n annisgwyl.
Mae gweithwyr Y Bont yn cadeirio Panel Maethu Conwy.
O bryd i’w gilydd byddwn yn asesu addasrwydd teulu ar gyfer maethu, naill ai fel aseswyr annibynnol neu os yw teulu lleol yn maethu ar gyfer Sir sy’n bell i ffwrdd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â post@bont.org.uk