Amdanom Ni

Ethos a Gwerthoedd

Fel elusen rydym yn gweithio gyda plant ac phobl ifanc i ateb eu anghenion. Gall hyn hefyd olygu ein bod yn gweithio gyda rhieni, gofalwyr a theuluoedd.

Ethos

Mae ein gwaith bob amser yn ymwneud â:

  • Cydnabod hunaniaeth yr unigolyn;
  • Hybu arfer gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol;
  • Hybu, cynnal, a pharchu hawliau a dewis unigolion wrth ddarparu gwasanaethau;
  • Cefnogi unigolion drwy gyfathrebu effeithiol;
  • Gweithredu mewn modd sydd ddim yn feirniadol.

Gwerthoedd

Rydym yn sicrhau ein bod yn gweithio o fewn Gwerthoedd y mudiad bob tro:

  • Y lle gorau i’r rhan fwyaf o blant fod yw gyda’u teuluoedd;
  • Mae’r nifer fechan o blant sy’n gorfod byw ar wahân i’w teuluoedd yn haeddu gofalwyr o’r safon uchaf;
  • Rhaid i ofalwyr dderbyn hyfforddiant o safon uchel er mwyn gallu gwneud eu gwaith;
  • Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd angen help a chymorth er mwyn magu llais, fel y gallant gyfrannu at gynlluniau a gwasanaethau a allai gael effaith ar eu bywydau;
  • Mae angen i blant gadw cysylltiad â’u gwreiddiau fel y gallant fagu gwytnwch fydd o gymorth iddynt ddelio â’u cefndir a wynebu eu dyfodol.